Ysgol y Felinheli logo

Aims and Objectives of the School

Statement from the Children

Our intention at Ysgol Y Felinheli is to create a happy school, where everyone does their best at all times; takes pleasure from learning and cares for each other.

Welsh only...

Ethos

Creu amgylchfyd ac awyrgylch hapus a chroesawgar, lle gall plant dyfu, datblygu ac aeddfedu i ddod yn unigolion hyderus a pharchus, yn ymwybodol o les eraill ac yn aelodau cyfrifol o gymdeithas.

Y Cwricwlwm

Cynnig addysg o’r ansawdd uchaf bosibl sydd yn adlewyrchu gofynion yr unigolyn, y gymdeithas, yr Awdurdod Addysg a’r Cwricwlwm Newydd I Gymru.

Dysgu ac Addysgu

Addysgu mewn ffordd ddiddorol a symbylus gydag athrawon yn defnyddio ystod eang o ddulliau dysgu sy’n dwyn y gorau allan o bob disgybl ac yn sicrhau fod y safonau uchaf posibl yn cael eu cyrraedd.

Datblygiad Proffesiynol Staff

Sicrhau bod yr arbenigedd a’r profiad angenrheidiol gan y staff i addysgu drwy gyfrwng cwricwlwm sy’n eang a chytbwys

Rheolaeth

Sicrhau rheolaeth effeithiol a rydd gyfle i bawb gyfrannu tuag at gyflawni nodau ac amcanion yr ysgol drwy gynllunio’n ofalus a gweithredu polisïau clir er mwyn gwneud defnydd effeithiol ac effeithlon o holl adnoddau’r ysgol.

Adnoddau

Sicrhau bod adnoddau digonol yn yr ysgol ar gyfer cyflwyno holl feysydd craidd a sylfaen y cwricwlwm cenedlaethol, eu bod mewn cyflwr da ac yn hawdd i’w cyrraedd a’u cadw gan blant ac athrawon.

Adeiladu

Sicrhau bod adeilad ac ystafelloedd yr ysgol mewn cyflwr diogel, o ansawdd da ac yn addas ar gyfer darparu addysg sydd o’r safon uchaf posibl

Cysylltiadau

Hybu cysylltiadau da rhwng yr ysgol â’i rhieni, y gymuned ehangach gan gynnwys busnes a masnach, ac asiantaethau eraill, fel bod yr ysgol yn cyfrannu’n gyson i weithgareddau’r gymuned dra hefyd yn elwa ar arbenigeddau a diddordebau oddi mewn i’r gymuned er budd addysgol i’r disgyblion

Disgybl Ysgol Y Felinheli plentyn ysgol y Felinheliplentyn ysgol y Felinheli Plentyn Ysgol y Felinheli