Wrth baratoi at y Cwricwlwm newydd i Gymru, a ddaeth i rym Medi 2022, aethpwyd ar daith gyffrous o ddiwygio Gweledigaeth ein hysgol. Ymgynghorwyd gyda holl ran ddeiliaid yr ysgol gan gynnwys staff, dysgwyr, Llywodraethwyr, rhieni a gwarchodwyr, y gymuned leol a busnesau'r fro, yn ogystal ag ymarferwyr ym myd Addysg, er mwyn creu Gweledigaeth ddiwygiedig ar gyfer Ysgol Y Felinheli.
Ein gweledigaeth yw darparu ysgol lle ceir ymdeimlad o deulu a phartneriaeth rhwng disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned leol. Cydweithiwn gyda'n gilydd i gynnig amgylchedd croesawgar, gofalgar a diogel er mwyn annog dysgu ac addysgu effeithiol. Trwy ddull ysgol gyfan, ceisiwn gefnogi llesiant meddyliol a chorfforol da drwy hyrwyddo ethos diwylliannol cadarnhaol , lle mae’r dysgwyr yn meithrin cydberthnasau positif â holl ran ddeiliaid yr ysgol.
Dymunwn feithrin, ysbrydoli, herio a chefnogi ein disgyblion drwy gynnig profiadau eang , cyffrous ac ysgogol iddynt. Anelwn at feithrin chwilfrydedd naturiol ym mhob plentyn ac iddynt fwynhau dysgu, wrth iddynt dyfu’n emosiynol, corfforol, creadigol a chymdeithasol.
Ein bwriad yw galluogi disgyblion i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus, sydd yn barod i wynebu sialensiau a dysgu sgiliau newydd er mwyn iddynt fod y gorau y gallent fod. Ymdrechwn i sicrhau bod ein disgyblion yn fentrus a chreadigol sydd yn barod i ddysgu gydol eu bywydau. Anelwn at gael disgyblion cydwybodol a pharchus fydd yn ymfalchïo yn eu hetifeddiaeth, traddodiadau a’u hiaith. Gosodir gwreiddiau cadarn yn eu milltir sgwâr, eu Cymreictod yn ogystal â’u teyrngarwch at y gymuned leol, tra ar yr un pryd, yn datblygu parch at gred a diwylliannau eraill.
Caiff pob unigolyn o fewn cymuned yr ysgol ei werthfawrogi a'i barchu a hyrwyddwn unigolion caredig a hapus sydd yn annibynnol, gwydn a hyderus gan werthfawrogi cyfranogiad pawb.
Ymgeisiwn ennyn dysgwyr sydd yn ddinasyddion cyfrifol er mwyn iddynt allu gofalu am eu hamgylchfyd lleol a’r byd eang .
Mae Llais y Plentyn yn bwysig iawn yn Ysgol Y Felinheli. Credwn gall cyfranogiad disgybl at y dysgu a’u cynnwys mewn penderfyniadau greu amgylchedd grymusol sy’n cynyddu dyheadau, yn ogystal â datblygu agweddau positif mewn pobl ifanc tuag at faterion sydd yn ymwneud yn fyw â’u cymuned a thu hwnt. Gyda’ch cydweithrediad, gallwn fagu’r hyder yn y plant i feithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes.
Hoffai'r ysgol ddiolch i bob un a gynorthwyodd gyda’r broses o adolygu’r weledigaeth hon.
Ceir ymdeimlad o deulu a phartneriaeth rhwng disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned leol. Cydweithiwn gyda'n gilydd i gynnig amgylchedd croesawgar, gofalgar a diogel er mwyn annog dysgu ac addysgu effeithiol.
Trwy ddull ysgol gyfan, ceisiwn gefnogi llesiant meddyliol a chorfforol da drwy hyrwyddo ethos diwylliannol cadarnhaol , lle mae’r dysgwyr yn meithrin cydberthnasau positif â holl ran ddeiliaid yr ysgol.
Dymunwn ysbrydoli, herio a chefnogi ein disgyblion drwy gynnig profiadau eang , cyffrous ac ysgogol iddynt.
Anelwn at feithrin chwilfrydedd naturiol ym mhob plentyn ac iddynt fwynhau dysgu, wrth iddynt dyfu’n emosiynol, corfforol, creadigol a chymdeithasol .
Ymdrechwn i sicrhau bod ein disgyblion yn fentrus a chreadigol sydd yn barod i ddysgu gydol eu bywydau.
Ein bwriad yw galluogi disgyblion i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus, sydd yn barod i wynebu heriau a dysgu sgiliau newydd er mwyn iddynt fod y gorau y gallent fod.
Anelwn at gael disgyblion cydwybodol a pharchus fydd yn ymfalchïo yn eu hetifeddiaeth, traddodiadau a’u hiaith. Gosodir gwreiddiau cadarn yn eu milltir sgwâr, eu Cymreictod yn ogystal â’u teyrngarwch at y gymuned leol, tra ar yr un pryd, yn datblygu parch at gred a diwylliannau eraill.
Caiff pob unigolyn o fewn cymuned yr ysgol ei werthfawrogi a'i barchu ac hyrwyddwn unigolion caredig a hapus sydd yn annibynnol, gwydn a hyderus gan werthfawrogi cyfranogiad pawb.
O fewn ein dosbarthiadau, ein hysgol ac ar draws ein clwstwr o ysgolion, rydym yn cydweithio ac yn cefnogi ein gilydd i ddatblygu a dysgu’n barhaus. Dymunwn feithrin, ysbrydoli, herio a chefnogi ein disgyblion drwy gynnig profiadau eang , cyffrous ac ysgogol iddynt. Anelwn at feithrin chwilfrydedd naturiol ym mhob plentyn ac iddynt fwynhau dysgu, wrth iddynt dyfu’n emosiynol, corfforol, creadigol a chymdeithasol .
Ymgeisiwn ennyn dysgwyr sydd yn ddinasyddion cyfrifol er mwyn iddynt allu gofalu am eu hamgylchfyd lleol a’r byd eang .