Mae’r ysgol yn perthyn i gynlluniau Ysgolion Iach ac Ysgolion Gwyrdd.
Rhydd hyn gyfleoedd i’r disgyblion sylweddoli pwysigrwydd cadw’n iach a ffitrwydd yn ogystal â materion yn ymwneud â chadwraeth, ail-gylchu ac arbed ynni.
Ni chaniateir i’r plant ddod a fferins a melysion i’r ysgol. Mae croeso iddynt ddod a ffrwythau i’w bwyta yn ystod amseroedd chwarae bore a phrynhawn. Yn ogystal, ni chaniateir dod a theganau i’r ysgol ond ar achlysuron arbennig.
Wrth ymrwymo i’r prosiect Ysgol Werdd, ‘rydym fel ysgol wedi cytuno i:
• Leihau gwastraff
• Arbed ynni ac adnoddau naturiol
• Lleihau llygredd
• Gofalu am yr amgylchedd lleol
• Teithio’n ddoeth
Bydd y Pwyllgor Eco-ysgol, sy’n cynnwys disgyblion Bl3-6, yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn trafod y materion uchod. Mae’r pwyllgor wedi codi ymwybyddiaeth holl ddisgyblion yr ysgol am faterion amgylcheddol, megis, sefydlu sgwad sbwriel, gosod blychau ailgylchu ymhob dosbarth, garddio, arbed ynni.
Mae’r ysgol wedi ennill statws Platinwm. Sefydlwyd gweithdrefnau ysgol gyfan ar gyfer hybu ymwybyddiaeth o faterion gwyrdd.
Mae’r ysgol wedi ennill y faner werdd Eco-ysgol yn ogystal.
Gweithia’r ysgol i hybu dealltwriaeth o Fasnach Deg gan drefnu stondinau a chodi arian drwy ffeiriau a chynnwys egwyddorion masnach deg yn y Cwricwlwm.

