Ysgol y Felinheli logo

Cyngor Ysgol

Rôl y Cyngor Ysgol yw cynrychioli plant yr ysgol er mwyn gwneud Ysgol Y Felinheli yn sefydliad hapus a diogel. Mae'r ysgol gyfan yn cael cyfle bob mis Medi i ethol dau gynrychiolydd o bob dosbarth o Fl2 - Fl6 i fod ar y Cyngor. Fel aelodau, caiff y disgyblion gyfle i fynegi barn am weithdrefnau’r ysgol a chynnig sylwadau ar gyfer gwella. Bydd y Cyngor Ysgol yn cyfarfod dwywaith y tymor.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor Ysgol wedi creu cymeriadau pwerau dysgu newydd , sicrhau bod offer chwarae ar gyfer y dysgwyr amseroedd egwyl, cydweithio gydag artist lleol ar gyfer creu murlun o'r pentref ar hyd y rhodfa a gwella edrychiad y toiledau yr Adran Iau. Maent wedi gwedd newid y brif fynedfa a chynnal gweithgareddau fel picnic mawr ar y cae yn yr Haf. Yn y dyfodol agos , gobeithir creu camau gweithredu yn dilyn yr ymarferiad o ganfod barn y dysgwyr am faterion iechyd a lles .

Corridor Ysgol y Felinheli
Corridor Ysgol y Felinheli

cartwn Disgybl Ysgol Y Felinheli cartwn plentyn ysgol y Felinhelicartwn plentyn ysgol y Felinheli cartwn Plentyn Ysgol y Felinheli