Mae’r ysgol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chlybiau sy’n agored i’r disgyblion e.e. yr Urdd a gweithgareddau chwaraeon.
Mae’r gweithgareddau hyn a drefnir gan yr ysgol yn amodol ar gydweithrediad a chefnogaeth y rhieni. Ni all yr ysgol dderbyn cyfrifoldeb am oruchwylio plant ar derfyn sesiynau’r clybiau/cymdeithasau a gofynnir i rieni a/neu warchodwyr sicrhau eu bod yn gwneud trefniadau hebrwng eu plant adref.
Mae gennym Adran yr Urdd yn yr ysgol. Ymfalchïwn yn ymdrech y disgyblion wrth gystadlu ac yn ein llwyddiannau mewn sawl agwedd e.e. celf, canu, llefaru a chwaraeon.
Cynhelir clybiau ar ôl ysgol e.e. Pêl droed, Eco-Ysgol, Mathtastic, Chwaraeon. Hysbysir rhieni o’r clybiau yn dymhorol.
Mae'r ysgol wedi sefydlu Clwb Brecwast dan amodau Llywodraeth y Cynulliad. Golyga hyn bod brecwast am ddim ar gael yn yr ysgol rhwng 8:25yb a 8:50yb. Gwasanaethir Clwb Gofal cyn Brecwast yn yr ysgol rhwng 8:05yb a 8:25yb am £1.00 y dydd. Rhaid talu drwy system y Cyngor 'Schoolcomms'. Ni agorir drysau'r ysgol cyn 8:05yb ac ni fydd brecwast ar gael ar ôl 8:40yb.
Bydd y brecwast yn cynnwys grawnfwyd a llefrith, ffrwythau neu sudd a thafell o dôst. Ni fydd yr Awdurdod yn addasu contractau cludiant yr ysgol ar gyfer y Clwb Brecwast. O bryd i’w gilydd, oherwydd ymweliadau addysgol cynnar, ni fydd yn bosibl cynnal y Clwb Brecwast, ond cewch rybudd digonol.
Os yr ydych yn dymuno i’ch plentyn fynychu’r clwb, mae croeso i chi gysylltu â Mrs Elaine Edwards neu Mrs Emma Hughes.
Cynhelir clwb gofal ar ôl ysgol rhwng 3:30yp a 5:30 yh, Dydd Llun i Ddydd Gwener. Mae’r clwb yn boblogaidd iawn. Os yr ydych yn dymuno cofrestru eich plentyn ar gyfer y clwb ar ôl ysgol, mae croeso i chi gysylltu â’r ysgol am fwy o fanylion.
Credwn fod mynd a phlant ar ymweliadau y tu allan i’r ysgol yn rhoi profiadau gwerthfawr iddynt, yn cyfoethogi eu bywydau a’u paratoi i fod yn ddinasyddion aeddfed. Trefnir ymweliadau addysgol fel cyflwyniad i bwnc neu os teimlir y byddant yn atgyfnerthu’r dysgu a gynhaliwyd eisoes yn yr ystafell ddosbarth.
Gall fod yn:
i) Taith gerdded leol o gwmpas y pentref
ii) Taith undydd mewn bws neu
ii) Ymweliad preswyl
Byddwn yn anfon gwybodaeth am deithiau addysgol at y rhieni a mynnir caniatâd y rhieni cyn y caniateir i’r plentyn ymuno a’r gweithgaredd.
Codir tâl am y fath weithgareddau yn unol â Pholisi Codi Tâl y Llywodraethwyr a gofynnir i rieni wneud cyfraniadau gwirfoddol.